Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-24-13 papur 4
Cyllideb Ddrafft 2014-15 : Cynllunio - Papur gan y Gweinidog Tai ac Adfywio
1. Mae'r papur hwn yn cyflwyno gwybodaeth am gyllideb Gynllunio arfaethedig 2014/15 ac mae'n crybwyll y Bil Diwygio Cynllunio drafft a gwariant ar Reoliadau Adeiladu.
2. Mae'r gyllideb Gynllunio'n cynnwys tua 2.8% o gyfanswm cyllideb y Prif Grŵp Gwariant Tai ac Adfywio; mae'r ganran yn gymharol gyson dros y ddwy flynedd, 2013/14 a 2014/15. Gweinyddir y gyllideb gan yr Is-adran Gynllunio.
3. Mae gan y system cynllunio defnydd tir ran allweddol i'w chwarae yn y gwaith o lunio dyfodol Cymru drwy helpu i ddarparu'r twf, y swyddi, y cartrefi a'r seilwaith y mae arnom eu hangen, gan ddiogelu a gwella ein hamgylchedd adeiledig a naturiol yr un pryd. Yn yr un modd, mae a wnelo'r system rheoliadau adeiladu â diogelu iechyd, diogelwch a lles pobl mewn adeiladau ac o'u cwmpas. Mae'r naill a'r llall yn arfau allweddol er gwireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy a'r agenda carbon isel.
4. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu'r fframwaith o ran deddfwriaeth, polisi a chanllawiau sy'n angenrheidiol i ddarparu'r systemau cynllunio a rheoli adeiladu, a ddarperir o ddydd i ddydd gan awdurdodau cynllunio a rheoli adeiladu lleol. Nid yw'r awdurdodau hynny'n cael cyllid penodol gan yr Is-adran Gynllunio, ond mae Cyfarwyddiaeth Cymru yr Arolygiaeth Gynllunio yn cael cyllid o'r fath. Mae gan Gyfarwyddiaeth Cymru ran fawr i'w chwarae yn y gwaith o benderfynu ynghylch apeliadau cynllunio ac archwilio cynlluniau datblygu ar ran Gweinidogion Cymru, yn ogystal â chyflwyno argymhellion i Weinidogion ar geisiadau cynllunio a alwyd i mewn ac apeliadau a adferwyd i'r Gweinidogion benderfynu yn eu cylch. Ymhlith eraill sydd â rhan yn y gwaith o ddarparu'r system gynllunio y mae ymgynghoreion statudol, y mae eu cyngor arbenigol yn sail i wneud cynlluniau ac i benderfyniadau ar reoli datblygiad a wneir gan awdurdodau cynllunio lleol; nid yw'r rhain yn cael eu hariannu o'r gyllideb Gynllunio. Er enghraifft, ariennir Cyfoeth Naturiol Cymru o gyllideb y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.
Cyllideb Gynllunio 2014/15
5. Y gyllideb a gyhoeddwyd ar gyfer yr Is-adran Gynllunio am y flwyddyn ariannol 2013 – 14 yw £7.090m. O ddechrau'r flwyddyn ariannol gyfredol, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros Reoliadau Adeiladu i'r Is-adran Gynllunio, ac felly cododd cyllideb yr Is-adran Gynllunio ar gyfer 2013 – 14 i £7.874m.
6. Cyllideb arfaethedig gychwynnol yr Is-adran Gynllunio ar gyfer 2014 – 15 yw £7.874m. Fodd bynnag, rhagwelir lleihad o 13.5% yn y gyllideb yn 2014/15, a fydd yn ychydig mwy nag £1 miliwn.
|
Cyllideb a Gyhoeddwyd 2013-14 |
Cyllideb Arfaethedig 2014-15 |
Arbedion Arfaethedig 2014-15 |
Cyllid ar gael 2014-15 |
|
£m |
£m |
£m |
£m |
Cynllunio |
£7.090 |
|
|
|
Rheoliadau Adeiladu |
£0.784 |
|
|
|
Is-adran Gynllunio |
|
£7.874 |
£1.068 |
£6.806 |
Cyfanswm |
£7.874 |
£7.874 |
£1.068 |
£6.806 |
7. Mae ar waith ystyriaeth i reoli'r lleihad, gan gynnwys adolygu'r holl wariant, trwy'r trwch. Sicrheir gostyngiad o'r ffrydiau gwaith hynny lle mae'r galw wedi lleihau. Ni fydd y gostyngiad yn effeithio ar waith ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys y Bil Diwygio Cynllunio.
8. Ymdrinnir â goblygiadau ariannol ehangach y Bil Diwygio Cynllunio yn yr asesiad effaith rheoleiddiol a gyhoeddir pan gyflwynir y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn toriad haf 2014. Fodd bynnag, bydd y Papur Ymgynghori sydd i'w gyhoeddi ym mis Rhagfyr yn crybwyll goblygiadau ariannol posibl y diwygiadau.
Rheoliadau Adeiladu
9. Mae trosglwyddo'r Pwerau Rheoliadau Adeiladu i Gymru ym mis Rhagfyr 2011 wedi arwain at fwy o bwysau ar Dîm Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru.
10. Mae'r Tîm Rheoliadau Adeiladu yn gyfrifol am:
· iechyd, diogelwch a lles pobl mewn adeiladau ac o'u cwmpas
· lleihau'r allyriadau carbon o'r amgylchedd adeiledig
· cynnal adolygiad o Reoliadau Adeiladu Rhan L o ganlyniad i ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r Rheoliadau Adeiladu er mwyn gwireddu ein dyheadau i sicrhau adeiladau di-garbon
· gwireddu Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru), y mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio wedi cytuno i'w roi ar waith fel blaenoriaeth ar sail dymuniad y Cynulliad.
· sicrhau bod y Rheoliadau Adeiladu yng Nghymru yn gyfredol ac yn ateb y diben, a
· sicrhau cydymffurfio â Chyfarwyddebau'r UE yn ymwneud â Rheoliadau Adeiladu.
11. Fel arwydd o'r costau cysylltiedig â datganoli'r Rheoliadau Adeiladu, mae'r adolygiad Rhan L cyfredol a datblygu'r Mesur Diogelwch Tân Domestig wedi derbyn dyraniad cyllideb o dros £3.2 miliwn er 2010, gan gynnwys costau staff. Yn y dyfodol bydd adolygiadau o'r rheoliadau adeiladu fel y maent yn gymwys yng Nghymru yn cynnwys:
· Rhan M – Mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt; a
· Diwygiadau i ganllawiau a gymeradwywyd yn ymwneud ag adeiladwaith adeiladau a radon.
12. Bydd y cyllid ar gyfer rheoliadau adeiladu yn y flwyddyn sydd i ddod yn cael ei reoli i sicrhau gwireddu agenda polisi Llywodraeth Cymru. Mae ymgorffori Rheoliadau Adeiladu yn yr Is-adran Gynllunio yn gymorth i reoli'r gyllideb.